YSTAFELL FOETHUS 

Mae'r rhan fwyaf o'n Hystafelloedd Moethus yn mwynhau golygfa wych o Fae Ceredigion. Maen nhw'n cynnwys gwely nodwedd mawr - rhai gyda phedwar postyn a bath jacwsi neu fath moethus fel pleser ychwanegol! 

 

Deluxe room with sea view of ceredigion

 

 YSTAFELL WEITHREDOL

(HYBLYG) 

Ein hystafelloedd Gweithredol yw ein hystafelloedd mwy gyda gwelyau brenin mawr y gellir naill ai fod yn efell neu wely brenin mawr. Mae rhan fwyaf o ein Ystafelloedd Gweithredol gyda olygfa o'r môr.

hotels in aberystwyth seafront

 

YSTAFELL DDWBL/GEFELL 

Mae ein hystafelloedd dwbl a gefell safonol yn ystafelloedd cyfforddus ar amryw loriau. Mae gan rai Golygfeydd o'r Môr ac mae gan yr ystafelloedd tawelach olygfa dros gefn y gwesty, ond cofiwch nodi wrth gadw lle i sicrhau golygfa o'r môr.

 hotels in aberystwyth seafront

 

 

TRYDYDD LLAWR 

YSTAFELL DDWBL/GEFELL 

Yr ystafelloedd ar ein trydydd llawr yw ein hystafelloedd mwyaf dymunol, wedi'u lleoli ar drydydd llawr y gwesty, gyda ffenestr dormer a nenfwd ar lethr. Rydym hefyd yn caniatáu Anifeiliaid Anwes yn yr ystafelloedd hyn am gost ychwanegol o £10.00 y noson

hotels in aberystwyth seafront

 

YSTAFELL GOMPACT 

Mae ein hystafelloedd compact yn cynnwys gwely dwbl               bach, ystafell berffaith ar gyfer teithwyr sengl,                 ond mae lle i ddau.

Mae gennym sawl un gyda Golygfeydd o'r Môr.

 

hotels in aberystwyth seafront

YSTAFELL SENGL 

Mae ein hystafelloedd Sengl i gyd wedi'u lleoli yng nghefn y gwesty, ac yn amrywio yn eu maint, ac mae gennym nifer wedi'u lleoli wrth ymyl y lifft ar gyfer gwesteion gyda phroblemau symudedd.

  

 hotels in aberystwyth seafront

 

 

 YSTAFELL DRIPHLYG  

Mae ein hystafell Driphlyg yn cynnwys gwely dwbl a sengl - mewn lleoliadau amrywiol o fewn y gwesty, y rhan fwyaf gyda naill ai ffenestr fae neu ffenestr dormer yn edrych allan ar Fae Ceredigion.

 

hotels in aberystwyth seafront

 

 

 SWÎT I'R TEULU 

Mae gan ein Swît i'r Teulu ddwy ystafell wely gyfagos sy'n rhannu cyfleusterau ystafell ymolchi. Maen nhw'n amrywio yn nhrefniant y gwelyau ond gallant gysgu hyd at 5 neu 6 o bobl. Mae gennym un Swît i'r Teulu gyda chyfleusterau hygyrch.

hotels in aberystwyth seafront

 

 

 YSTAFELL I'R TEULU 

Mae ein Hystafelloedd i'r Teulu yn cynnwys un ystafell wely fawr sy'n amrywio yn nhrefniant y gwelyau a gallant gysgu rhwng 4 a 5 o bobl. Gofynnwch i'n tîm am gynllun yr ystafell wely i gyd-fynd ag anghenion eich teulu/grŵp. Rydym hefyd yn caniatáu i oedolion rannu ein hystafelloedd i'r teulu.

hotels in aberystwyth seafront

 

hotels in aberystwyth seafront

 

YSTAFELLOEDD FFLAT-WESTY

GYDA CHYFLEUSTERAU CEGIN 

Gyda'n prosiect diweddaraf mae gennym dair ystafell/swît a all gysgu rhwng 2 a 4 o bobl sy'n cynnwys soffa a chyfleusterau cegin compact i gynnwys cysur ychwanegol ac annibyniaeth yn ystod eich arhosiad.

 

hotels in aberystwyth seafront

 

 

 

MAE GENNYM LIFFT I'N HOLL LORIAU YN Y PRIF WESTY ER HWYLUSTOD I CHI