01970 612 444
[email protected]
Yn y Marine, rydym wedi cynllunio'r opsiynau bwyta yn arbennig ar eich cyfer chi. Dechreuwch y diwrnod gyda brecwast sylweddol neu rywbeth bach ysgafn; prydau cartref traddodiadol gyda chynhwysion ffres, neu'n syml ymlaciwch gyda phaned yn lolfa'r gwesty wrth wylio'r haul yn machlud dros Fae Ceredigion. Mae gennym Fwyty a Bar ac mae'r ddau ar agor i bawb, nid dim ond ein preswylwyr. O frecinio busnes i ddiodydd cyn gwledda a phopeth yn y canol, mae'r ddarpariaeth yn y Marine yn arbennig ar eich cyfer chi.
Mae ein cogyddion yn fwy na pharod i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol neu arbennig yn ystod eich arhosiad gyda ni. Rydym yn ymfalchïo yn ein bwyd cartref gwych, gwasanaeth cyfeillgar a sylw at anghenion pob gwestai, felly beth am gadw bwrdd yn ystod eich arhosiad gyda ni.
Mae tocynnau rhodd bob amser yn anrheg berffaith beth bynnag fo'r achlysur ac yn ddewis poblogaidd ar gyfer aelod o'r teulu, ffrind neu gydweithiwr sydd â phopeth.
i gael blas o'r hyn sydd ar gael i chi yng Ngwesty'r Marine
Dewch i weld o ble daw ein bwydydd a diodydd gwych.