01970 612 444
[email protected]
Os ydych chi'n edrych am lety yn nhref Aberystwyth, yna Fflat a Stiwdio'r Marine yw'r llety hunanarlwyo perffaith ar eich cyfer chi! Mae'r ddwy fflat yn fodern ac yn agored, ac wedi'u cynllunio i safon uchel.
Maen nhw'n cynnwys:
Mae'r fflatiau wedi'u lleoli ar is lawr Gwesty'r Marine gyda Bar a Phrydiau ar gael i chi. Wedi'u lleoli ar Lan-y-Môr, mae'r ddwy fflat dafliad carreg o'r Traeth, a phrin 5 munud ar droed i ganol tref Aberystwyth ble y ceir amrywiaeth o gaffis, bwytai, siopau, gorsaf drên a bysiau a mwy.
Mae'r fflat yn cynnwys grisiau mynediad i lawr i gegin, lolfa ac ardal fwyta cynllun agored modern ac eang. Mae tair ystafell ymolchi i gyd, sy'n cysgu hyd at 8 o bobl; un ystafell wely dwbl gydag ystafell gawod en-suite (mae lle i wely sengl ychwanegol); ystafell gefell ac ystafell driphlyg gyda gwely dwbl a sengl sy'n rhannu ystafell gawod. Mae patio bach yn y cefn y gallwch ei ddefnyddio.
Mae Fflat Stiwdio'r Marine yn fflat stiwdio cynllun agored mawr sy'n cynnwys ardal fwyta, lolfa a chysgu, ac mae lle i hyd at 3 o bobl. Ceir cegin fodern ar wahân ac ystafell ymolchi sy'n cynnwys toiled, sinc a chawod iddi hi ac iddo ef.
Nid yw ein fflat ar lein i archebu ar hyn o bryd, ond cysylltwch â ni yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth, argaeledd a phrisiau
Trwy ffonio ni ar 01970 612444 neu ebost